Yn 2024-25, crëwyd pedair perllan ledled Casnewydd gan y Bartneriaeth Natur Leol (LNP) gyda help plant ysgol a gwirfoddolwyr.
Gall coetiroedd o unrhyw fath liniaru’r newid yn yr hinsawdd, oherwydd maen nhw’n amsugno a storio CO2 ac yn addasu i’r newid yn yr hinsawdd drwy gael effaith oeri ar yr amgylchedd uniongyrchol a gwanhau dŵr glaw yn ystod tywydd eithafol. Yn ogystal â hyn, mae perllannau yn cynnig buddion gwahanol fath o fioamrywiaeth i goetiroedd arferol, gan gynyddu’r amrywiaeth o gynefinoedd. Maen nhw hefyd yn ased cymunedol gwych sy’n cynnig ffynhonnell o fwyd a lle heddychlon i drigolion.
Gwnaeth yr LNP edrych ar safleoedd lleol, gan ystyried eu hagosrwydd at ysgolion lleol, fel y gallai plant gymryd rhan yn y prosiect. Gwnaethant gynnal ymgynghoriad cymunedol, a oedd yn cynnwys arolwg i drigolion ar sianeli cyfryngau cymdeithasol Cyngor Dinas Casnewydd, a dosbarthu taflenni i gartrefi a oedd yn agos at y mannau lle roedd y perllannau yn mynd i gael eu plannu. Gwnaethant hefyd gynnal ymgynghoriad wyneb yn wyneb ar y safleoedd arfaethedig.
Gwnaethant ymhél â’r ysgolion agosaf at y safleoedd a siarad â’u heco-bwyllgorau am berllannau a bioamrywiaeth perllannau. O’r ymgynghoriad, casglwyd enwau’r bobl a allai fod â diddordeb mewn gwirfoddoli a chynhaliwyd sesiynau hyfforddi ar eu cyfer. Cynhaliwyd sesiwn hyfforddiant ar blannu coed a thri diwrnod plannu perllan a daeth llawer o grwpiau ysgol ac aelodau o’r cyhoedd i’r rhain. Unwaith y sefydlwyd grwpiau gwirfoddoli, parhaodd yr hyfforddiant yn 2026 gyda hyfforddiant ar reoli perllannau a thocio.
Wynebodd y prosiect rai heriau. Bu dewis y lleoliadau’n anodd, yn enwedig ceisio diwallu anghenion rhanddeiliaid gwahanol. Cafwyd ymatebion cymysg i’r prosiect yn ystod yr ymgynghoriad, gyda rhai yn credu y gallai’r arian fod wedi’i wario’n wahanol gan ystyried yr anghenion lleol cymhleth. Roedd pobl hefyd yn poeni y gallent ddenu ymddygiad gwrthgymdeithasol neu gael eu difrodi. Cafwyd pryderon gwirioneddol ynghyd hygyrchedd a llethr un o’r perllannau.
Creodd yr LNP berllan lai mewn lle mwy hygyrch yn agos at yr un â’r pryderon hygyrchedd, gan gymryd yr amser i drafod problemau posibl gyda’r holl randdeiliaid. Gwnaethant gwrdd â phobl a thrafod eu pryderon lle bynnag y bu’n bosibl.
Erbyn diwedd Mawrth 2025, roedd pedair perllan gymunedol newydd wedi’u plannu ledled Casnewydd, a oedd yn cynnwys cyfanswm o fwy na 125 o goed ffrwythau. Roedd y coed afalau a gellyg yn rhywogaethau treftadaeth Gymreig yn tarddu o fannau lleol gan fwyaf. Defnyddiwyd dull plannu cefnogol hefyd gan ddefnyddio perthi ffrwythau llai fel cyrens duon a gwsberins. Sefydlwyd tri grŵp gwirfoddoli a gwnaethant gysylltu â thair ysgol i helpu i ofalu am y perllannau. Bu’r plant ysgol a gwirfoddolwyr yn plannu coed a bylbiau. Bwriedir cyhoeddi cylchlythyr am y berllan ynghyd â map o berllannau ar draws Casnewydd.
Mae gan bedair cymuned leol berllan nawr y gallant eu defnyddio i gasglu bwyd ac fel man cymunedol i gynnal digwyddiadau a sesiynau dysgu. Mae’r ysgolion yn bwriadu eu defnyddio fel mannau dysgu awyr agored. Mae’r LNP wedi creu lle a fydd yn cynnig cynefin gwahanol i rywogaethau mewn ardal a oedd yn ddim mwy na glaswelltir a dorrwyd cyn hyn, gan gefnogi adferiad byd natur. Dywedodd un trigolyn lleol fod y prosiect “yn gyfle gwych i roi bwyd ac addysg i gymunedau lleol.”
2026 LNP Cymruwebsite by WiSS