Rhaglen fer a redodd rhwng Ionawr a Mawrth 2026 oedd y Gronfa Her Gwydnwch Morol, a ddarparodd gyllid ar gyfer prosiectau a oedd yn gweithio ar hyd arfordir Cymru i gefnogi’r amgylchedd morol.
Blaenoriaethau’r cynllun oedd i:
Cafodd 12 prosiect ddyfarniad ar draws Gwynedd, Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, Bannau Brycheiniog, Ynys Môn a Sir Gaerfyrddin. Cafodd pob prosiect ei gyflawni gan bartneriaethau natur lleol (LNPs) mewn partneriaeth â rhanddeiliaid lleol.
Ymhlith y prosiectau llwyddiannus roedd partneriaeth ag Amgueddfa Cymru i greu sioe tacsonomi morol deithiol, partneriaeth â Tethys Oysters i ddatblygu deorfa wystrys gyntaf Cymru, datblygu amddiffynfeydd arfordirol yn erbyn erydiad twyni tywod a phartneriaeth â Pelagos i gyflwyno pobl ifanc i yrfaoedd mewn cadwraeth forol.
Cronfa Her Gwydnwch Morol Gwynedd 25-26
Cyflwynodd PNL Gwynedd mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru ac Amgueddfa Cymru weithdai i arfogi gwirfoddolwyr â'r wybodaeth i deimlo'n hyderus wrth adnabod anifeiliaid morol, gan eu galluogi i fonitro ein glannau a chofnodi rhywogaethau dangosydd newid hinsawdd a rhywogaethau estron goresgynnol.
darllen mwy
Cronfa Her Gwydnwch Morol Bannau Brycheiniog 25-26
Ar yr olwg gyntaf, gall prosiect Gwydnwch Morol ymddangos yn anarferol ar gyfer parc cenedlaethol tirgaeedig. Ond mae'r afonydd, nentydd a’r dyfrffyrdd sy'n llifo trwy Fannau Brycheiniog wedi'u cysylltu yn y bôn ag iechyd yr amgylchedd morol.
darllen mwy
Cronfa Her Gwydnwch Morol PNL Ynys Môn 25-26
Dyfarnwyd cyllid Her Gwydnwch Morol gan Lywodraeth Cymru a'i weinyddu drwy'r Bartneriaeth Lleoedd Lleol ar gyfer Natur rhwng Ionawr a Mawrth 2026 i gyflawni prosiect Sbardun Y Môr a Ni. Roedd y cyllid yn cefnogi amser ac adnoddau ar gyfer dau Swyddog Prosiect a gynhaliwyd gan Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru.
darllen mwy
2026 LNP Cymruwebsite by WiSS